Ar Gip
✓ Cyfradd yn seiliedig ar eich cyflog
✓ Rhyddhad treth ar gyfraniadau
✓ Bandiau'n cael eu hadolygu bob Ebrill
✓ Mae eich cyflogwr hefyd yn cyfrannu
Eisiau gwybod faint fyddwch yn ei dalu?
Defnyddiwch gyfrifiannell cyfraniadau'r CPLlL i amcangyfrif eich cyfradd gyfrannu a'r rhyddhad treth a allai fod ar gael i chi.
Saesneg yn unig
Cyfraddau Cyfrannu
| Os yw eich tâl pensiynadwy gwirioneddol: | Y gyfradd gyfrannu a delir gennych: |
|---|---|
| Hyd at £18,400 | 5.5% |
| £18,401 i £29,000 | 5.8% |
| £29,001 i £47,300 | 6.5% |
| £47,301 i £59,800 | 6.8% |
| £59,801 i £84,000 | 8.5% |
| £84,001 i £119,100 | 9.9% |
| £119,101 i £140,400 | 10.5% |
| £140,401 i £210,700 | 11.4% |
| £210,701 neu fwy | 12.5% |
Cyfraniad Cyflogwr
Yn ogystal â'ch cyfraniadau chi, mae eich cyflogwr yn cyfrannu at gost darparu buddion y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Caiff cyfradd cyfraniad y cyflogwr ei hadolygu bob tair blynedd gan Actiwari'r Cynllun.

